PLATFFORM PENBWRDD A DATBLYGU GNOME 2.12 WEDI EI RYDDHAU

Fersiwn newydd yr amgylchedd penbwrdd cod agored yn cynnig hwylustod a phŵer.

BOSTON, Massachusetts - Medi'r 7fed, 2005 - Heddiw, mi wnaeth Prosiect GNOME ryddhau eu fersiwn ddiweddaraf o Blatfform Penbwrdd a Datblygu GNOME, y penbwrdd mwyaf blaenllaw ar gyfer systemau rheoli Linux ac Unix. Mae fersiwn 2.12 yn gwella defnyddioldeb a phŵer GNOME mewn ymateb i adborth defnyddwyr a chyfraniadau datblygwyr, ac mae'n cynnwys miloedd o newidiadau sy'n coethi'r penbwrdd rhwyddaf a mwyaf cyfeillgar o fewn y byd cod agored.

Yn unol ag athroniaeth GNOME o gofio'r 'defnyddwyr yn gyntaf', mae GNOME yn creu fersiwn sefydlog newydd bob chwe mis. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr a dosbarthwyr wrth iddyn nhw gynllunio cynnyrch sy'n seiliedig ar GNOME. Fel canlyniad, bydd dosbarthiadau megis Fedora, SuSE ac Ubuntu yn cynnwys GNOME 2.12 o fewn fersiwn nesaf eu cynnyrch. Bydd hyn yn darparu GNOME 2.12 i filiynau o ddefnyddwyr.

Prif nodweddion GNOME 2.12 i ddefnyddwyr:

  • Thema ragosodedig wedi ei diweddaru.

  • Yn haws i reoli ffeiliau.

  • Y clipfwrdd yn gweithio mewn ffordd eglur.

  • Gwyliwr dogfennau unedig.

  • Y panel rheoli 'Amdanaf I'.

Bydd gweinyddwyr systemau hefyd yn croesawu'r panel rheoli Gwasanaethau newydd, a'r golygydd dewislenni. Bydd datblygwyr meddalwedd yn elwa o welliannau i'r gronfa feddalwedd GTK+, sy'n sail i GNOME. Mae'r gwelliannau yn cynnwys integreiddio'r gronfa lunio genhedlaeth-newydd, sef Cairo, o freedesktop.org.

"Mae GNOME 2.12 yn edrych yn well nag erioed o'r blaen, ac mae'n cynnig mwy o gysondeb," medd Owen Taylor, cadeirydd bwrdd Sefydliad GNOME. "Mae nodweddion newydd defnyddiol drwy gydol y penbwrdd, wedi'u gweithredu'n ofalus i gynyddu defnyddioldeb, tra'n cadw GNOME yn syml ac eglur i'w ddefnyddio."

"Mae'r fersiwn newydd hwn yn ganlyniad llawer o waith caled iawn gan garfan wych o bobl", medd Elijah Newren, rheolwr rhyddhau GNOME. "Rydym yn ymfalchïo yn ein datblygwyr ac yn ymfalchïo yn yr hyn maen nhw wedi ei greu."

Mae GNOME 2.12 ar gael mewn 43 o ieithoedd (gan gynnwys y Gymraeg), gyda nifer fawr yn fwy o ieithoedd wedi'u cynnal yn rhannol. Mae Galisieg, Estoneg, Indoneseg, Macedoneg, Nepali, Slovak, Fietnameg, Thai, a Xhosa yn ieithoedd sydd wedi'u cynnal am y tro cyntaf yn GNOME 2.12.

Ar gael

Bydd GNOME 2.12 ar gael yn fuan, o fewn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Linux poblogaidd. I'r rhai na all aros, mae'r CD byw GNOME newydd (ar gael o www.gnome.org/start/2.12/) yn gadael i ddefnyddwyr a newyddiadurwyr brofi'r penbwrdd GNOME diweddaraf drwy losgi CD ac ail-ddechrau'r cyfrifiadur - does ddim angen gosod unrhyw beth.

Gall datblygwyr a defnyddwyr blaengar sydd am osod Platfform Penbwrdd a Datblygu GNOME 2.12 wneud hynny nawr, a'i lwytho i lawr o http://ftp.gnome.org/pub/GNOME/desktop/. Mae'r meddalwedd yn cynnwys yr holl ffynonellau craidd ar gyfer penbwrdd GNOME 2.12, a set gyflawn o arfau a llyfrgelloedd i ddatblygwyr.

Ynghylch GNOME

Mae GNOME yn brosiect meddalwedd rhydd sy'n datblygu penbwrdd cyflawn, hawdd ei ddefnyddio. Yn ogystal â chynnwys elfennau craidd penbwrdd fel dewislenni system, trefnydd ffeiliau, porwr gwe, a gwasanaethau eraill, mae GNOME yn amgylchedd cyflawn i ddatblygwyr, sy'n gadael iddyn nhw greu rhaglenni newydd.

Mae dros 500 o ddatblygwyr meddalwedd o bob cyfandir, gan gynnwys dros 100 o rai sy'n cael eu talu i wneud hynny, yn cyfrannu eu hamser a'u hymdrechion at y prosiect. Caiff ei noddi gan rai o gwmnïoedd amlycaf y diwydiant, gan gynnwys Fluendo, HP, IBM, Novell, Red Hat, a Sun. Cynhelir GNOME ar amryw o blatfformau, gan gynnwys GNU/Linux (y cyfeirir ato'n fwy aml fel Linux), Amgylchedd Reoli Solaris, HP-UX, Unix, BSD, a Darwin oddi wrth Apple.

Defnyddir penbwrdd GNOME gan filiynau o bobl ledled y byd. Mae GNOME yn rhan safonol o bob dosbarthiad blaenllaw o Linux ac Unix yn rhyngwladol, gan gynnwys dosbarthiadau cymunedol poblogaidd fel Debian, Fedora Core, a SuSE. GNOME hefyd yw'r penbwrdd rhagosodedig ar ddosbarthiadau Linux blaenllaw ar gyfer corfforaethau, fel Red Hat Enterprise Linux a'r Java Desktop System oddi wrth Sun. GNOME hefyd yw'r penbwrdd ddewiswyd ar rai o osodiadau Linux mwyaf y byd, gan gynnwys gosodiadau mawr gan lywodraethau yn Extremadura, Sbaen, ac yn Sao Paulo, Brasil. Defnyddir technoleg GNOME gan werthwyr mawr o feddalwedd annibynnol i Linux, fel Firefox, prosiect Eclipse, Real Networks, a VMWare.

Ceir mwy o wybodaeth am GNOME ar http://www.gnome.org/

Ynghylch Sefydliad GNOME

Yn cynnwys cannoedd o ddatblygwyr gwirfoddol a chwmnïoedd sydd amlycaf o fewn eu diwydiannau, cymdeithas yw Sefydliad GNOME sydd wedi ymrwymo i hybu ac i symud GNOME ymlaen. Mae'r Sefydliad yn cael ei arwain gan ei aelodau, ac mae'n fudiad dielw sy'n cynnig cymorth ariannol, cyfundrefnol a chyfreithiol i brosiect GNOME, ac yn helpu pennu ei weledigaeth a'i strategaeth. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â Sefydliad GNOME ar foundation.gnome.org.

Ymholiadau'r Wasg

Gyrrwch ymholiadau'r wasg at gnome-press-contact@gnome.org, os gwelwch yn dda.

Mae Linux yn nod masnach sy'n eiddo i Linus Torvalds. Mae pob enw a nod masnach arall yn eiddo i'w berchnogion perthnasol.


Previous
Contents
PLATFFORM PENBWRDD A DATBLYGU GNOME 2.12 WEDI EI RYDDHAU

About GNOME · Download · Support · Community · Developers · Foundation · Contact